Y tro cyntaf i mi deithio ar awyren, roeddwn yn 17 mlwydd oed ac yn teithio yn ôl o Jersey yn ystod lleoliad gwaith naw mis yno. Doedd gen i ddim syniad beth i’w ddisgwyl ond, wrth i ni ddringo dros y cymylau, cefais fy nghario yn ôl i’r straeon Enid Blyton yr oeddwn wrth fy modd â nhw pan yn blentyn lle roedd tylwyth teg yn cerdded ar y cymylau! Roedd yn edrych fel y byddech yn gallu camu allan ac eistedd ar y cymylau gwlan cotwm a syllu dros yr ochr ar y byd oddi tano.
Pan ‘da chi yn uchel, ‘da chi’n medru gweld ymhellach nag os ydych ar y llawr ac mae gennych bersbectif cwbl wahanol ar bethau. Mae hyn yn wir am y rhai sydd wedi eu galw i ddangos uchder cariad Duw. Maent yn medru “gweld” peth o’r hyn sy’n dod. Mae rhai yn gweld trwy weledigaethau, breuddwydion a datguddiadau ac eraill yn cael teimlad na ellir ei esboinio. Bydd rhai yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd yn y byd ysbrydol, yn gwybod beth yw’r frwydr ysbrydol sydd ar y gweill ar y pryd...darllen ymlaen