Blynyddoedd yn ôl, bues yn nofio scuba tra ar ein gwyliau yn Corfu. Ar ôl mwynhau pnawn yn nofio gyda snorcl, fe benderfynom ni fentro ymhellach ac yn ddyfnach i’r môr gan y byddai hynny’n siwr o fod yn well. Ar ôl gwisgo pob dim a neidio i’r dwr, wrth i’r gweddill o’r grwp fynd yn syth lawr i wely’r môr, roeddwn i dal yn arnofio ar yr wyneb. Fe gês i fwy o bwysau ond wnaeth hynny ddim helpu. Rwyf wastad wedi hoffi nofio ond roedd yn amlwg yn fuan nad oes ots pa mor dda oedd yr offer ar y tu allan, doeddwn i ddim wedi fy arfogi ar y tu fewn! Fe wnes i ddal i nofio ar yr wyneb yn gwylio mewn syndod a rhyfeddod wrth i’r bobl hynny oedd yn ddewrach na fi fynd i lefydd na allwn i eu cyrraedd.
Effesiaid 3:18 “Dw i am i chi, a phobl Dduw i gyd, ddeall mor aruthrol fawr ydy cariad y Meseia – mae'n lletach, yn hirach, yn uwch ac yn ddyfnach na dim byd arall!”
Fel rhan o gorff Crist, mae rhai yn cael eu galw i ddangos dyfnder cariad Duw. Mae’r bobl hyn yn sensitif ac yn gofalu’n ddwfn. Maent yn teimlo poen eu cyd-ddyn fel tasai yn perthyn iddyn nhw. Maent yn fodlon bod yn agored am eu teimladau ac yn creu llefydd diogel i bobl eraill fod yn fregus. Maent yn gwrando nid yn unig ar beth sy’n cael ei ddweud ond ar y geiriau sydd heb eu ynganu yn y tawelwch. Er mwyn i eraill gael iachâd, maent yn gwrando ar straeon y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn cuddio oddi wrthynt. Mae’r rhai sydd wedi eu donio yn gallu dangos trugaredd Duw mewn ffordd mor anhygoel a maent yn gwnselwyr naturiol sydd yn arfer cael pobl yn agor i fyny iddynt a rhannu eu pryderon a’u loes calon. Mae dysgu gosod ffiniau iach yn allweddol! ...read more
Comments