Effesiaid 3:18 Dw i am i chi, a phobl Dduw i gyd, ddeall mor aruthrol fawr ydy cariad y Meseia – mae'n lletach, yn hirach, yn uwch ac yn ddyfnach na dim byd arall!
Wrth i mi feddwl am sut mae corff Crist yn dangos hyd cariad Duw, fe wnes I gael fy hun yn canu "He ain't Heavy, He's my Brother" gan Yr Hollies.
The road is long
With a many a winding turn
That leads us to who knows where
Who knows where
But I'm strong
Strong enough to carry him. He ain't heavy, he's my brother.
Mae yna bobl wirioneddol rhyfeddol sy’n dewis cychwyn ar lwybr dieithr i helpu i gario brawd mewn angen. Maent yn ildio eu bywydau i wneud bywyd rhywun arall yn well. Dyna weithred o gariad.
Yn yr Iseldiroedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Casper ten Boom a’i deulu yn helpu i guddio ac achub tua 800 o Iddwwon cyn iddynt gael eu cofnodi a’u harestio. Roedd Casper yn 84 mlwydd oed ar y pryd a bu fawr 9 diwrnod ar ôl cael ei garcharu. Anfonwyd ei ferched, Corrie a Betsie i Wersyll Ravensbrück. Mynnodd Betsie eu bod yn “ddiolchgar beth bynnag ydy'ch sefyllfa chi. Dyna sut mae Duw am i chi ymddwyn, fel pobl sy'n perthyn i'r Meseia Iesu”. Dyna dystiolaeth o ffyddlondeb. Yn drist, bu Betsie fawr yn y gwersyll ond rhanodd ddoethineb arall gyda Corrie ychydig cyn hynny “Nid oes pydew yn rhy ddwfn nad yw Duw yn ddyfnach eto”. Deuddeg diwrnod wedyn, cafodd Corrie ei ryddhau. Flynyddoedd wedyn, fe faddeuodd i’r un y gwnaeth ei frad arwain iddynt gael ei garcharu ac un o’r gardiaid a fu yn arbennig o ffiaidd yn y gwersyll....darllen ymlaen
Komentarze